Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


79(v5)  

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69

 

Carwyn Jones:

 

Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)

 

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu

(90 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol - Gohiriwyd i 4 Gorffennaf 2017

 

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru - Gohiriwyd i 4 Gorffennaf 2017

 

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Cylchffordd Cymru

(60 munud)

 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl:  Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus

(60 munud)

 

NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.

3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.

4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.

'Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.

Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.

Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.

 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl:  Cyfnod 4 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

(15 munud)

 

NDM6351 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

 

Yn cymeradwyo'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

Dogfennau Ategol

Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd Yn unol ag Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Frys

(60 munud)

 

Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)

 

</AI10>

<AI11>

10   Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 28 Mehefin 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>